Outdoor Welcome Assistant/ Cynorthwyydd Croeso Awyr Agored

2025-01-06 | National Trust | Narberth | WLS | United Kingdom

Perks & Benefits:

Location:
Narberth SA67 8PP
Privileges:
  • Car scheme
  • Company pension
  • Discounted gym membership
  • Employee discount
  • Free parking
  • Season ticket loan

As the public face of the National Trust, you’ll provide a warm, friendly welcome, give information about the property, answer questions and make sure everyone has an enjoyable and memorable visit to the Marloes Peninsula. Working outside, this role as an Outdoor Welcome Assistant plays a core part in our National Trust team.

Please note, this role is based at Martin's Haven car park and Marloes Sands and Mere car park. Because this role is based in a rural area, please think about how you’d be able to get here for work, before you apply for this job.

Contract: Fixed term contract until 30 September 2025

Salary: £11.64 per hour (this will increase in April with living wage increase)

Hours: A typical working day is 8am to 3pm. Weekend and Bank Holiday working expected. Hours will vary throughout season with 300 hours working out at an average of 1.5 days a week from March to September (some weeks you may work 4-5 days a week, others you may work 1 day a week). Full training and uniform provided.

This role is based on annualised hours, where the amount of hours you work each month may vary, however your salary will be paid in 12 equal instalments over the contract.

Start date: 1 st March 2025, with training commencing week of 3 rd March.

Interview dates: Week commencing 3 rd February.

Internally this role will be known as a 'Welcome & Service Assistant'

For this role, you’ll need to complete our online assessment instead of using a C.V. or online application form. This will help us understand more about your strengths and give you more information on the role.


Crynodeb

Fel wyneb cyhoeddus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, byddwch yn estyn croeso cynnes, cyfeillgar, yn rhoi gwybodaeth ynghylch yr eiddo, yn ateb cwestiynau ac yn sicrhau bod pawb yn mwynhau ymweliad cofiadwy â Phenrhyn Marloes. Gan weithio yn yr awyr agored, mae’r rôl yma fel Cynorthwyydd Croeso Awyr Agored yn rhan greiddiol o’n tîm Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Sylwch fod y swydd hon wedi’i lleoli ym maes parcio Martin’s Haven a maes parcio Traeth a Chors Marloes. Oherwydd bod y swydd wedi’i lleoli mewn ardal wledig, gofynnwn i chi ystyried sut fyddech chi’n cyrraedd yma i'r gwaith, cyn eich bod yn ymgeisio am y swydd.

Cytundeb: Contract cyfnod penodol hyd at 30 Medi 2025

Cyflog: £11.64 yr awr (bydd hyn yn cynyddu ym mis Ebrill gyda'r cynnydd mewn cyflog byw)

Oriau: Diwrnod gwaith arferol yw o 8am hyd 3pm. Mae disgwyl i chi weithio ar benwythnos ac ar Ŵyl y Banc. Bydd eich oriau’n amrywio drwy gydol y tymor gyda 300 awr yn 1.5 diwrnod yr wythnos ar gyfartaledd o fis Mawrth i fis Medi (mae’n bosib y byddwch yn gweithio 4-5 diwrnod yr wythnos rai wythnosau, ac 1 diwrnod yr wythnos dro arall). Darperir hyfforddiant llawn a gwisg.

Mae'r swydd hon yn seiliedig ar oriau blynyddol, a gall faint o oriau rydych chi'n eu gweithio bob mis amrywio; er hynny bydd eich cyflog yn cael ei dalu mewn 12 rhandaliad cyfartal dros y flwyddyn.

Dyddiad cychwyn: 1af Mawrth 2025, gyda hyfforddiant yn dechrau ar wythnos 3ydd o Fawrth.

Dyddiadau cyfweld: Wythnos yn dechrau 3ydd Chwefror.

Yn fewnol bydd y rôl hon yn cael ei hadnabod fel ‘Cynorthwyydd Croeso a Gwasanaeth’

Ar gyfer y swydd hon, bydd angen ichi gwblhau ein hasesiad ar-lein yn hytrach na defnyddio C.V. neu ffurflen gais ar-lein. Bydd hyn o gymorth i ni ddeall mwy am eich cryfderau ac i roi mwy o wybodaeth i chi am y swydd.


What it's like to work here:Stunning seascapes and a wealth of wildlife are waiting to greet you at Marloes Peninsula. The Marloes Peninsula combines dramatic coastal scenery and safe bathing on golden sands. You can look out for seabirds and seals and the remains of ancient peoples.  Reporting to the Welcome Manager, you’ll be a part of a team of staff working in Marloes Sands and Martin’s Haven car parks.


Sut brofiad yw gweithio yma?

Mae morluniau trawiadol a chyfoeth o fywyd gwyllt yn aros i’ch croesawu ym Mhenrhyn Marloes. Mae Penrhyn Marloes yn cyfuno golygfeydd arfordirol dramatig ac ymdrochi diogel ar dywod euraidd. Gallwch gadw golwg am adar y môr a morloi ac olion pobloedd hynafol. Gan adrodd i’r Rheolwr Croeso, byddwch yn rhan o dîm o staff ym meysydd parcio Traeth a Chors Marloes.


What you'll be doing:Day to day, you’ll deliver a great all-round customer service experience. As an Outdoor Welcome Assistant, you’ll be responsible for answering queries and making sure visitors can find everything they need for their visit, whilst helping them park up in our car park. Your role is to make sure our visitors have the best day they can. Great visitor experiences are in our nature, and we believe everyone should feel welcomed, appreciated and more engaged because of the excellent service you provide. This role would suit anyone with a passion for delivering great customer service.

Understanding how and why we engage our supporters is key. You’ll deliver high standards of presentation at the property, and ensure all our communications with our visitors are clear and consistent, from the first click on the website, to the posters and signs around the property. Motivated by achieving targets, you'll actively promote ways to support the Trust such as promoting membership and all it's benefits to visitors.

You can view the full role profile for this role in the document attached. You don't need to have all of the knowledge, skills and experience listed in the role profile; this is just to provide a full picture of what’s possible in this role.


Beth fyddwch chi’n ei wneud?

O ddydd i ddydd, byddwch yn darparu gwasanaeth cwsmeriaid cyffredinol gwych. Fel Cynorthwyydd Croeso Awyr Agored byddwch yn gyfrifol am ateb ymholiadau a gwneud yn siŵr y gall ymwelwyr ddod o hyd i bopeth maent ei angen ar gyfer eu hymweliad, tra’n eu helpu i barcio yn ein maes parcio. Pwrpas eich rôl yw sicrhau bod ein hymwelwyr yn cael y diwrnod gorau posib. Mae darparu profiadau gwych i ymwelwyr yn rhan o bwy ydym ni ac rydym yn credu y dylai pawb deimlo eu bod yn cael eu croesawu, eu gwerthfawrogi a’u bod yn ymgysylltu’n well oherwydd y gwasanaeth rydych chi’n ei ddarparu. Byddai’r rôl hon yn addas i unrhyw un sy’n frwd dros ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid gwych.

Mae deall sut a pham rydym yn ymgysylltu â’n cefnogwyr yn allweddol. Byddwch yn cyflawni safonau uchel o gyflwyno yn yr eiddo, ac yn sicrhau bod ein holl gyfathrebiadau gyda’n hymwelwyr yn glir ac yn gyson, o’r clic cyntaf ar y wefan, i’r posteri a’r arwyddion o amgylch yr eiddo. Wedi’ch cymell gan gyflawni targedau, byddwch yn hyrwyddo ffyrdd o gefnogi’r Ymddiriedolaeth yn weithredol megis hyrwyddo aelodaeth a’i holl fanteision i ymwelwyr.

Gallwch edrych ar y proffil swydd lawn yn y ddogfen sydd wedi’i hatodi. Nid oes angen i chi feddu ar yr holl wybodaeth, sgiliau a phrofiad sydd ar y rhestr; pwrpas hon yw rhoi llun llawn o’r hyn sy’n bosib yn y swydd hon.


Who we're looking forWe'd love to hear from you if you are:

  • Customer focused with an understanding of the importance of great service
  • A team player, but also can work on your own initiative
  • Well organised and adaptable
  • Willing to learn new skills
  • Have a positive attitude

Yr unigolyn rydym yn chwilio amdano
  • Unigolyn sy’n canolbwyntio ar y cwsmer sydd â dealltwriaeth o bwysigrwydd gwasanaeth gwych
  • Yn gallu gweithio mewn tîm yn ogystal ag ar eich menter eich hun
  • Unigolyn hynod drefnus ac yn meddu ar agwedd hyblyg
  • Unigolyn sy'n barod i ddysgu sgiliau newydd
  • Agwedd gadarnhaol

The packageThe National Trust has the motto ‘For everyone, for ever’ at its heart. We’re working hard to create an inclusive culture, where everyone feels they belong. It’s important that our people reflect and represent the diversity of the communities and audiences we serve. We welcome and value difference, so when we say we’re for everyone, we want everyone to be welcome in our teams too.

  • Substantial pension scheme of up to 10% basic salary
  • Free entry to National Trust places for you, a guest and your children (under 18)
  • Rental deposit loan scheme
  • Season ticket loan
  • EV car lease scheme
  • Perks at work discounts such as gym memberships, shopping discount codes, cinema discounts
  • Holiday allowance up to 32 days relating to length of service, plus holiday purchase scheme, subject to meeting minimum criteria.
  • Flexible working whenever possible
  • Employee assistance programme
  • Free parking at most Trust places



Yr arwyddair sydd wrth wraidd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yw 'I bawb, am byth'. Rydym yn gweithio'n galed i greu diwylliant cynhwysol, lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn iddo. Mae'n bwysig bod ein pobl yn adlewyrchu ac yn cynrychioli amrywiaeth y cymunedau a'r cynulleidfaoedd yr ydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn croesawu ac yn gwerthfawrogi gwahaniaeth, felly pan ddywedwn ein bod ar gyfer pawb, rydym eisiau i bawb deimlo'n gartrefol yn ein timau hefyd.

  • Cynllun pensiwn sylweddol hyd at 10% o gyflog sylfaenol
  • Mynediad am ddim i eiddo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, i chi, gwestai a'ch plant (dan 18 oed)
  • Cynllun benthyciad blaendal rhent
  • Benthyciad tocyn tymor
  • Gostyngiadau buddion y gweithle, h.y. aelodaeth gampfa, codau gostyngiad siopa, gostyngiadau ar gyfer y sinema
  • Lwfans gwyliau hyd at 32 diwrnod mewn perthynas â hyd y gwasanaeth, yn ogystal â chynllun prynu gwyliau, yn amodol ar fodloni meini prawf gofynnol.
  • Oriau gweithio hyblyg lle bynnag y bo'n bosibl
  • Rhaglen cynorthwyo cyflogai
  • Parcio am ddim yn y rhan fwyaf o leoliadau

Cliciwch yma i ddysgu mwy am y buddion rydym yn eu cynnig i’ch cefnogi chi.


Requirements :Compliance.Eligibility to Work in the UK
Fixed Term p/t (300 hrs py to 30/09/25)

Find out more jobs in Narberth, WLS, United Kingdom (UK)